Telerau ac Amodau Pleidleisio
Chwilio am Seren – Junior Eurovision
Mae’r telerau ac amodau yma yn berthnasol i unigolion sydd yn dymuno pleidleisio yn rhaglen derfynol Chwilio am Seren – Eurovision Cymru sydd i’w ddarlledu ar S4C ar nos Fawrth y 24ain o Fedi 2019 (y Rhaglen).
Fe fydd tri / tair o gystadleuwyr y Rhaglen yn cyraedd y rownd derfynol ac fydd enillydd y gyfres yn cael ei b(ph)enderfynu trwy gyfuniad o bleislais wrth banelwyr wedi eu dewis ar draws Cymru a Llundain a’r gwylwyr ar y noson – y ddau yn bwysiedig @ 50% yr un.
Bydd y tri / tair cystadleuydd yn perfformio’n fyw ar y rhaglen ac fe fydd y cyflwynydd yn datgan yr union amser y llinellau ffôn ar agor ac yn cau, pan y bydd modd i wylwyr bleidleisio ar gyfer eu hoff berfformwyr sef drwy ffonio neu drwy danfon neges tecst (text / SMS) yn unig (nid oes modd arall o bleidleisio):
- NEGES DESTUN
Fe fydd angen pleidleisio trwy decstio JE ac yna new cyntaf y cystadleuydd i’r rhif:
66663
Noder fod angen gap rhwng y ‘JE’ ac enw’r cystadleuydd:
Er enghraifft:
JE Enw
Cost danfon neges decst yw 25c y neges â thâl mynediad rhwydwaith. Mae’r gost yma yn ychwanegol i gost arferol eich cyflenwr. Rhaid i chi gael caniatad y person sy’n talu biliau y llinnell ffôn.
NEU
- FFONIO
Fe fydd y rhifau isod yn cael ei cysylltu i’r 3 cystadleuydd fydd yn symud ymlaen i ail hanner y rhaglen fyw ar y noson.
Cystadleuydd XXXX 09009 510501
Cystadleuydd XXXX 09009 510502
Cystadleuydd XXXX 09009 510503
Pris yr alwad yw 25c o linnell ddaearol yn ogystal â thâl mynediad rhwydwaith. Gall y gost amrywio rhwng cyflenwyr a bydd yn sylweddol uwch o ffônau symudol. Rhaid i chi gael caniatad y person sy’n talu bil y llinnell ffôn.
Byddwch yn clywed neges fer yn diolch ichi am eich pleidlais. Bydd cyfanswm y gost yn dibynnu ar weithredwr eich rhwydwaith. Gall gwylwyr ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y swm y bydd eu gweithredwr symudol yn eu codi drwy ymweld â https://www.ofcom.org.uk/phones-telecoms-and-internet/advice-for-consumers/costs-and-billing/how-much-does-a-phone-call-really-cost .
Gallwch ffônio neu decstio cynifer o weithiau ac y dymunech, ond fe fyddwch yn talu am pob galwad neu neges decst.
Peidiwch a cheisio ffonio na thecstio cyn neu ar ôl yr union amser a gyhoeddir yn y Rhaglen fel bod y llinellau ffôn a thecst ar agor. Ni fydd eich pleidlais yn cael ei gyfrif ac fe allech orfod talu am yr alwad ffôn neu decst.
Bydd y pleidleisiau’n cael eu cyfrif a’u cyfuno gyda sgoriau y paneli rhanbarthol er mwyn dyfarnu enillydd fydd yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth derfynol Junior Eurovision yn Gliwice, Gwlad Pwyl ar y 24ain o Dachwedd 2019.
Os na ellir penderfynu yn rhesymol beth yw canlyniad y bleidlais oherwydd methiant technegol neu am unrhyw resymau eraill y tu hwnt i reolaeth resymol cynhyrchydd y Rhaglen neu S4C, gall Cynhyrchwyr y Rhaglen yn ôl eu disgresiwn eu hunain benderfynu naill ai i ohirio neu ganslo’r bleidlais. Os caiff y bleidlais ei ganslo, gall Cynhyrchwyr y Rhaglen yn ôl eu disgresiwn eu hunain benderfynu ar y canlyniad gan y naill neu’r llall o’r dulliau canlynol:
a) bydd canlyniadau’r beirniadu rhanbarthol yn cael eu defnyddio i bennu’r enillydd; neu
b) unrhyw ddull arall i’w benderfynu gan gynhyrchwyr y Rhaglen yn ôl eu disgresiwn llwyr.
Bydd dyfarniad S4C a Rondo Media yn derfynol yng nghyswllt y gystadleuaeth hon.
DIOGELU DATA
Gweinyddir y sustemau pleidleisio ffôn a negeseuon testyn gan gwmni Content Guru ar ran Rondo Media Cyf, cynhyrchwyr y rhaglen. Ni fydd manylion eich rhif ffôn neu decst yn cael ei gasglu at unrhyw bwrpas ar wahan i gofnodi eich pleidlais yn y gystadleuaeth hon. Ni fyddwch yn derbyn unrhyw gyswllt pellach gan Content Guru, Rondo Media nac S4C o ganlyniad i gymeryd rhan yn y bleidlais hon.
Trefnwyr / cynhyrchwyr y rhaglen: Rondo Media Limited, Uned 1i, Lon Cae Ffynnon, Cibyn, Caernarfon LL55 2BD