Polisi Preifatrwydd Rondo ar gyfer “Chwilio am Seren – Junior Eurovision”
Pwrpas y Polisi Preifatrwydd hwn yw dweud wrthych pa wybodaeth y mae Rondo yn ei chasglu oddi wrthych yng nghyswllt y gystadleuaeth a’r gyfres deledu ar gyfer S4C “Chwilio am Seren – Junior Eurovision”, sut a pha bryd y gall gael ei chasglu, a sut y gallai gael ei defnyddio gan Rondo.
Mae’r holl wybodaeth y byddwn yn ei gasglu gennych yn cynnwys y wybodaeth y byddwch wedi ei rannu gyda ni ar y ffurflen gais ar gyfer y gwasanaeth ond hefyd unrhyw wybodaeth bellach y byddwch yn ei rannu gyda ni wrth gynnal y gystadleuaeth ac wrth gynhyrchu’r gyfres ar gyfer S4C.
Rydym eisiau bod yn dryloyw iawn o ran y defnydd a wnawn o’ch gwybodaeth fel eich bod yn deall sut a pham ein bod yn ei chasglu ac yn ei defnyddio, ac er mwyn i chi wybod y gallwch ymddiried ynom bob amser.
Unig bwrpas gofyn am wybodaeth amdanoch yw i allogi Rondo i gynhyrchu’r gystadleuaeth a’r gyfres deledu ar gyfer S4C mewn modd adloniannol ac er mwyn cydymffurfio gyda’n oblygiadau cytundebol wrth gynhyrchu’r gyfres ar gyfer S4C. Gall hyn olygu rhannu peth o’r data gydag S4C er mwyn ateb gofynion cytundebol Rondo.
Nid yw rhoi eich gwybodaeth bersonol i Rondo yn golygu eich bod yn colli rheolaeth arni. Byddwn yn dweud wrthych pa wybodaeth sydd gennym amdanoch os byddwch yn gofyn i ni amdani.
Ni fydd Rondo yn gwerthu eich data i unrhyw un arall. Ni fyddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth ymlaen i sefydliad gwahanol, (ag eithrio S4C fel rhan o gynhyrchu’r gyfres), ond gyda’ch caniatâd chi, neu yn yr amgylchiadau cyfyngedig a nodir yn y Polisi Preifatrwydd hwn.
Bydd Rondo yn gofalu am eich gwybodaeth wrth ei storio’n ddiogel ar ein Sustem Rheoli Cynnwys ar ein cyfrifiaduron ac mewn ffurfiau eraill diogel.
Byddwn yn cadw’r wybodaeth am hyd cyfnod cynhyrchu’r gyfres ar gyfer S4C ac yna yn ei waredu oni bai bod rhesymau cytundebol neu gyfreithiol fydd yn ei gwneud yn ofnnol i Rondo gadw elfennau o’r wybodaeth.
Y Gyfraith
Deddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig 2003 a 2011 yw’r prif ddeddfau yn y DU i sicrhau y caiff eich gwybodaeth bersonol a’ch preifatrwydd eu diogelu.
Os hoffech wybod mwy am Ddiogelu Data yn gyffredinol ewch i wefan y Comisiynydd Gwybodaeth yn www.ico.org.uk .
Pobl dan 16 oed
Os ydych chi dan 16 oed, a wnewch chi gael caniatâd eich rhieni/gwarcheidwaid ymlaen llaw os gwelwch yn dda pryd bynnag y byddwch yn darparu gwybodaeth bersonol i Rondo.
Rheoli eich gwybodaeth a chael mynediad iddo
I ganfod pa wybodaeth sydd gan Rondo amdanoch, cysylltwch â Swyddog Diogelu Gwybodaeth Rondo, Llawr 9, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.
Byddwn angen gweld prawf o bwy ydych cyn i ni ddarparu gwybodaeth i chi a gallem godi ffi weinyddu o £10.
Gallwch ofyn i ni dynnu eich gwybodaeth o systemau Rondo drwy gysylltu â Swyddog Diogelu Data Rondo, Rondo, Llawr 9, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW. Yna bydd Rondo yn tynnu eich data o’r systemau neu yn sicrhau ei fod yn ddienw.
Cwcis
Ewch i Weithdrefn Cwcis Rondo os gwelwch yn dda i ganfod mwy am y ffordd y mae Rondo yn defnyddio Cwcis a sut y gallwch reoli’r defnydd ohonynt.
Diogelwch
Does dim gwarant o ran diogelwch gwybodaeth a anfonir drwy’r Rhyngrwyd ond mae Rondo yn defnyddio mesurau safonol y diwydiant i amddiffyn diogelwch eich gwybodaeth.
Newidiadau i’r polisi hwn
Bydd unrhyw newidiadau a wnawn i’r polisi hwn yn cael eu gosod ar y dudalen we hon a, lle bo’n ymarferol, rhoddir gwybod i chi drwy e-bost.