Junior Eurovision Cymru 2019 – Termau ac Amodau Ffurflen Gais Arlein

Cefndir

Mae’r termau a’r canllawiau yma yn ymwneud â phob ymgeisydd hoffai gymryd rhan yn y gystadleuaeth a elwir yn “Chwilio am Seren – Junior Eurovision Cymru – Search for a Star” dros dro (“Y Gystadleuaeth”).

Chwilio am dalent cenedlaethol, bod yn unigolyn neu grŵp i gynrychioli Cymru yn rownd derfynol Junior Eurovision Song Contest yn Gliwice, Gwlad Pwyl ar y 24ain o Dachwedd, 2019 fydd Y Gystadleuaeth.

Mae Y Gystadleuaeth yn cael ei ffilmio ar gyfer cyfres o raglenni teledu y bydd Rondo Media Cyf (“Y Cynhyrchydd”) yn eu cynnig i S4C (“Y Gyfres”) ond ddim o reidrwydd yn eu cynhyrchu.

Gall gwybodaeth berthnasol gaiff ei gyflwyno gan Ymgeiswyr a’u rhieni neu warchodwyr ym mhob cais gael ei ddefnyddio yn y Gyfres pe bae chi’n cael eich dewis am ail glyweliad (call-back).

Bydd rownd derfynol The Junior Eurovision Song Contest yn cael ei darlledu ledled Ewrop.

Crynodeb

Cam Ymgeiswyr Dyddiadau Pwysig Lleoliad
Cais Cychwynnol Pob Ymgeisydd Cyflwyno erbyn 5.00yh 3ydd o Fai 2019
Clyweliadau Agored Pob Ymgeisydd
  1. Dydd Mercher 24ain o Ebrill  2019 (yb)
  1. Dydd Mercher 24ain o Ebrill  2019 (p’nawn)
  1. Dydd Iau 25ain o Ebrill 2019 (1030-1500)
  1. Dydd Sul 5ed o Fai 2019 (trwy’r dydd)
  1. Caerfyrddin
  1. Aberystwyth
  1. Llandudno
  1. Caerdydd
Ail Glyweliadau Ymgeiswyr Llwyddiannus y Clyweliadau Agored
  1. Dydd Sadwrn 4ydd o Fai 2019
  1. Dydd Llun 6ed o Fai 2019
  1. Caernarfon
  1. Caerdydd
Cyfnod Mentora Hyd at 20 Ymgeiswyr Llwyddiannus yn dilyn yr Ail Glyweliadau Sadwrn 18ed o Fai 2019 I’w gadarnhau
Junior Eurovision Cymru  Rownd Cynderfynol 12 o Ymgeiswyr Llwyddiannus o’r Cyfnod Mentora Sadwrn 29ain o Fehefin 2019 Canolfan Siopa’r Quadrant

Abertawe

Junior Eurovision Cymru Final 6 o Ymgeiswyr Llwyddiannus o’r Cyfnod Mentora Mawrth 24ain o Fedi 2019

Ymarerion ar ddydd Llun 23ain o Fedi 2019

(ymarferion llwyfannu ar y 21/22 o Fedi – i’w cadarnhau)

Llandudno
Junior Eurovision Song Contest Final Enillydd/Enillwyr Junior Eurovision Cymru Junior Eurovision Week rhwng 16eg o Dachwedd – 25ain o Dachwedd 2019 Gliwice, Gwlad Pwyl

Telerau Cymryd Rhan

Er mwyn cymryd rhan mae’n rhaid i bob Ymgeisydd fod yn hanu o Gymru, neu wedi byw yng Nghymru a rhwng 9 a 14eg mlwydd oed ar ddiwrnod Ffeinal Junior Eurovision (Tachwedd 24ain 2019).

Nid yw’n angenrheidiol i Ymgeiswyr fod â’r gallu i siarad Cymraeg er mwyn cystadlu yn y Gystadleuaeth. Fodd bynnag, mi fydd yn ofynnol i’r rhai fydd yn llwyddo i gyrraedd y Cyfnod Mentora (gweler isod) i berfformio caneuon yn Gymraeg, ac enillydd Junior Eurovision Cymru hefyd i berfformio cân Gymraeg yn y Junior Eurovision Final.

Gall yr Ymgeisydd/Ymgeiswyr fod yn berfformwyr uniglol neu yn grŵp o 6 aelod neu lai.

Mae’n rhaid i bob cais gael ei gwblhau gan riant neu warchodwr yr Ymgeisydd.

Ni fydd yr Ymgeisydd yn gymwys i wneud cais ar gyfer y Gystadleuaeth os ydyn nhw, eu rhiant neu warchodwr neu unrhyw berthynas agos yn gyflogedigion S4C, Rondo Media neu unrhyw gwmni arall cysylltiedig.

Ni all Ymgeisydd gystadlu dros fwy nac un gwlad mewn unrhyw flwyddyn yn y Junior Eurovision Final.

Mae pob rhiant neu warchodwr ar ran yr Ymgeisydd yn cytuno i gadw at y rheolau, rheoliadau, termau ac amodau y gystadleuaeth a osodwyd gan Rondo (y “Rheolau”) ac yn cydnabod y gall Rondo newid y Rheolau (gan gynnwys heb gyfyngiad ar lafar) ar unrhyw adeg. Mae penderfyniad Rondo’n derfynol parthed pob elfen o’r broses ymgeisio, y gystadleuaeth ac mi fydd y Gyfres yn derfynol a rhwymedig.

Ymgeisio

I ymgeisio ewch i www.s4c.cymru/junioreurovision i gofrestru a chwblhewch y ffurflen gais arlein.

Bydd ceisiadau ar agor tan 5.00yh ar y 3ydd o  Fai 2019.

Nid yw cofrestru arlein yn orfodol ac mae modd i ymgeiswyr sydd heb gofrestru ddod i’r clyweliadau.  Serch hynny, ni all Rondo sicrhau bydd ymgeiswyr sydd heb gofrestru yn cael slot yn y clyweliadau.

Os hoffech gopi o’r ffurflen gais e-bostiwch chwilioamseren@rondomedia.co.uk neu cysyltwch â Rondo Media  – 029 2022 3456.

Post: Rondo, 9ed Llawr , Southgate House, Wood Street, Cardiff, CF10 1EW

Ni all Rondo, nac unrhyw asiant neu is-gontractiwr sy’n gweithio iddi,  dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am fethiant technegol neu unrhyw broblem arall gydag apiau arlein, rhwydweithiau ffôn, llinellau, sustemau, gweinydd, darparwr, neu arall, a all beri i geisiadau beidio â chyrraedd.

Os ydych yn cael unrhyw anawsterau efo’r ffurflen gais arlein, cysylltwch drwy ffonio 029 2022 3456 neu drwy e-bost ar chwilioamseren@rondomedia.co.uk .

Ni fydd ceisidau sy’n cyrraedd ar ôl y clyweliad agored diwethaf yn cael eu hystyried.

Gwahoddir Ymgeiswyr i gyflwyno clip fideo neu sain fel rhan o’r broses cofrestru/ymgeisio.   Bydd yn clip yn cael ei ddefnyddio gan Rondo at ddibenion ymchwil yn unig ac ni fydd yn cael ei ystyried fel rhan o’r broses clyweld. Bydd yn ofynol i pob Ymgeisydd fod yn bresennol yn un o’r cyfleon cyfweld i’w cael eu hystyried.

Clyweliadau Agored Cyntaf

  1. Bydd rhaid i Ymgeiswyr dalu eu costau a’u treuliau eu hunain i fynychu un o’r pedwar clyweliad agored:  Clyweliad Agored Caerfyrddin:  Dydd Mercher, 24ain o Ebrill (bore)

 

  1. Clyweliadau Agored Aberystwyth: Dydd Mercher, 24ain o Ebrill, Aberystwyth (p’nawn)

 

  1. Clyweliadau Agored Llandudno: Dydd Iau, 25ain o Ebrill, Llandudno (1030-1500)
  1. Clyweliadau Agored Caerdydd: Dydd Sul, 5ed o Fai, Caerdydd (trwy’r dydd)

Mae’n rhaid i’r Ymgeiswyr fod yng nghwmni rhiant neu warchodwr yn ystod y clyweliadau fydd yn gyfrifol am les a buddianau’r plentyn trwy gydol y dydd.

Mae disgwyl i’r Ymgeiswyr baratoi cân i’w pherfformio yn ystod y clyweliad. Caiff pob Ymgeisydd rwydd hynt i ddewis unrhyw gân yr hoffent i’w pherfformio yn ystod y clyweliad ond mae’n werth ystyried natur cystadleuaeth Eurovision wrth wneud y dewis. Caiff y gân fod yn Gymraeg neu’n Saesneg ac yn gân boblogaidd gyfredol os y dymunir.  Dylai’r Ymgeiswyr fod yn barod i ganu mwy na un cân os daw cais i wneud hynny.

Dylai’r Ymgeiswyr fod yn barod i berfformio eu cân o’u dewis yn a cappella (heb gyfeiliant) yn ogystal ac i gyfeiliant. Gall y cyfeiliant unai gael ei chwarae ar y piano gan ein Cyfarwyddwr Cerdd, dim ond i’r Ymgeisydd ddarparu copi o’r gerddoriaeth ar y diwrnod. Hefyd, gall y cyfeiliant fod yn drac cefndirol, eto, i’w ddarparu gan yr ymgeisydd ar y fformat CD/mp3/wav. Mae posib i ni ofyn am fersiwn byr o’r gân, rhwng 1’00 a 2’00 funud o hyd yn ystod y broses glyweld.

Nid yw’n angenrheidiol i Ymgeiswyr fod â’r gallu i siarad Cymraeg er mwyn cystadlu yn y Gystadleuaeth. Fodd bynnag, mi fydd yn ofynnol i’r rhai fydd yn llwyddo i gyrraedd y Cyfnod Mentora (gweler isod) i berfformio caneuon yn Gymraeg, ac enillydd Junior Eurovision Cymru hefyd i berfformio cân Gymraeg wreiddiol y bydd Rondo’n ei gomisiynu yn y Ffeinal Junior Eurovision yng Ngwlad Pwyl.

Bydd y clyweliadau agored cychwynol yn cael eu cynnal ar gyfer pob Ymgeisydd cofrestredig, (ac os y bydd amser yn caniatau, unrhyw Ymgeiswyr sy’n mynychu heb gofrestru), yn ystod y clyweliadau yng Nghaernarfon a Chaerdydd, bydd rhestr fer o Ymgeiswyr yn cael eu dewis gan banel beirniad Rondo i fynd ymlaen i’r ail glyweliad (call-back audition).

Bydd y clyweliadau agored cychwynol yn cael eu recordio er mwyn cynorthwyo cynhyrchwyr Rondo i ddewis yn ofalus pwy fydd yn mynd ymlaen i’r ail glyweliad. Ni fydd y recordiadau yma yn cael eu darlledu na’u cadw at unrhyw ddefnydd arall.

Ail Glyweliadau

Bydd Ymgeiswyr y clyweliadau cychwynol yn cael gwybod ar y diwrnod os ydyn nhw’n llwyddiannus. Bydd rheiny yn cael eu gwahodd i fynychu’r ail glyweliad o flaen panel o Fentoriaid ar gyfer y Gyfres. Bydd yr ail glyweliadau yn cael eu cynnal yn Nghaernarfon a Chaerdydd fel a nodir isod. Bydd penderfyniad panel beirniad Rondo o pwy fydd yn mynd ymlaen i’r ail gyfweliad yn derfynol.

  1. Caernarfon, Ail Gyfweliad: Dydd Sadwrn, 4ydd o Fai.
  1. Caerdydd, Ail Gyfweliad: Dydd Llun, 6ed o Fai.

Os y bydd Rondo yn derbyn nifer sylweddol o Ymgeiswyr, fe fydd gan Rondo yr hawl i gysylltu gydag Ymgeiswyr ar ôl y Cyfweliad Agored Cyntaf i drefnu Ail Gyfweliad ar ddyddiad arall.

Gall Ymgeiswyr sy’n cael eu dewis am Ail Gyfweliad berfformio yr un gân ac wnaethon berfformio yn y Cyfweliad Agored Cyntaf.

Bydd perfformiadau’r rhai a ddewisir i ganu yn yr Ail Glyweliadau o flaen y Mentoriaid yn cael eu ffilmio, a bydd posib y caiff rhain eu defnyddio yn y Gyfres, ond ni all Rondo sicrhau y bydd pob perfformiad yn cael ei ddangos.

Cost Clyweliadau

Yr ymgeiswyr fydd yn gyfrifol am y costau i gyd wrth wneud cais a mynychu’r clyweliadau, gan gynnwys bwyd, costau teithio ac unrhyw gostau eraill.

Cyfnod Mentora

Yn dilyn yr Ail Glyweliad yng Nghaernarfon a Chaerdydd, bydd y Mentoriaid yn dewis hyd at 20  Ymgeisydd llwyddiannus i fynd ymlaen i gael eu mentora, ac mi fydd y daith yma yn cael ei chynnwys o fewn y Gyfres.

Bydd y 12 Terfynol yn derbyn copi o gytundeb safonol a dogfenau cais am Drwydded Perfformio i’w rhieni neu warchodwr eu cwblhau a’u arwyddo cyn i’r 12 Terfynol gymryd rhan yn y Gyfres. Mae’n ragamod i gystadlu a chymryd rhan yn y Gyfres fod rhiant/warchodwr yr Ymgeiswyr yn arwyddo a dychwelyd y dogfenau hynny ar neu cyn y dyddiad penodol. Mae Rondo’n cadw’r hawl i wrthod gadael i Ymgeisydd gymryd rhan yn y Gyfres os nad yw’r cytundebau priodol heb eu harwyddo o fewn yr amser priodol, ac/neu os daw’n amlwg nad yw’r Ymgeisydd yn gymwys i gystadlu yn y Gyfres.

Mae’n ofynnol yn ol  Cyfraith Gwlad i Rondo yn gwneud cais am drwydded perfformio’r plentyn oddi wrth yr awdurdod lleol priodol, ac mi fydd parhad yr Ymgeisydd yn y Gyfres yn ddibynol ar y drwydded yma’n cael ei chaniatâu.

Mae’n rhaid i’r 12 Terfynol fod ar gael ar y dyddiadau penodol ar yr amserlen a gyhoeddwyd gan Rondo i gymryd rhan yng ngweddill y Gyfres. Os oes gan yr Ymgeisydd unrhyw ymrwymiad sydd yn cyferbynnu gyda’r dyddiadau ffilmio, yna’r Ymgeisydd sydd yn gyfrifol am esgusodi eu hunain o’r ymrwymiadau hynny er mwyn cymryd rhan yn y Gyfres. Os nad yw Ymgeisydd ar gael ar unrhyw ddyddiad o’r ffilmio, yna mae Rondo’n cadw’r hawl i wahardd yr Ymgeisydd rhag parhau’n rhan o’r Gyfres.

Dylai’r Ymgeisydd/Ymgeiswyr a’u rhiant/warchodwr fod ar gael ar y dyddiadau canlynol –

18ed o Fai 2019

29ain o Fehefin 2019

21ain, 22ain, 23ain a 24ain o Fedi 2019

Cyfrinachedd y Gystadleuaeth

Y mae’n amod o gystadlu yn y Gyfres fod pob Ymgeisydd, ac, i’r graddau rhesymol posib, eu teuluoedd a’u ffrindiau, yn peidio a datgelu canlyniadau’r broses o ddewis unigolion fydd yn mynd trwodd yn y gystadlaeath naill ai drwy wefannau cymdeithasol neu unrhyw gyfrwng arall hyd nes y bydd S4C wedi darlledu’r rhaglenni sy’n datgelu’r canlyniadau. Fe all peidio a chydymffurfio gyda’r amod hyn, drwy benderfyniad Rondo yn unig , arwain at wahardd yr Ymgeisydd o’r Gyfres.

Ffeinal Junior Eurovision Cymru

O’r 12 Terfynol, bydd rhestr fer o tua 6 unigolyn/grŵp yn cael eu dewis gan y Mentoriaid i fynd ymlaen i Ffeinal Junior Eurovision Cymru. Gwnaiff Rondo gysylltu gyda’r 6 llwyddiannus i roi gwybod iddynt am eu datblygiad ar bob cam.

Bydd enillydd/enillwyr Junior Eurovision Cymru yn cael ei/eu dewis yn ystod y rownd derfynol gan gyfuniad o banel o arbenigwyr yn y maes, a phleidlais cynulleidfa.

Bydd rhaid i riant/gwarchodydd yr enillydd gefnogi cais ar gyfer trwydded berfformio ryngwladol i blentyn sy’n teithio er mwyn i’r enillydd gymryd rhan yn Junior Eurovision Final yn Gliwice yng Ngwlad Pwyl, ac arwyddo cytundeb arall yn cytuno i delerau ac amodau Junior Eurovision Song Contest.

Pe bai unrhyw anghydfod yn codi ynglŷn a’r gystadleuaeth, y canlyniad, neu unrhyw agwedd arall o’r Gyfres, bydd penderfyniad Rondo yn derfynol.

Bydd yn orfodol i’r Ymgeisydd Llwyddiannus a’i/a’u rhiant/gwarchodydd fod yn rhydd ar y dyddiadau canlynol er mwyn cymryd rhan yn Eurovision Song Contest Final yn Gliwice:

16eg – 25ain o Dachwedd 2019 – wythnos yng ngwlad Pwyl.

Bydd yn orfodol i’r Ymgeisydd llwyddiannus a’i/a’u rhiant/gwarchodydd fod yn berchen â phasport sydd ac oleiaf [6] mis o ddilysrwydd heb unrhyw rwystrau i deithio i wlad Pwyl.

Costau’r Cyfnod Mentora i’r Rownd Derfynol

Bydd Rondo yn darparu llety fel bo’r angen ac yn talu holl gostau yr Ymgeiswyr sy’n llwyddo i gyrraedd y Cyfnod Mentora, Ffeinal Junior Eurovision Cymru a’r Junior Eurovision Song Contest yng Ngwlad Pwyl o fewn rheswm, yn ogystal â rhiant/gwarchodydd. Bydd manylion pellach ar gael i’r rheiny fydd yn cyrraedd y camau hyn.

Termau Cyffredinol

Bydd rhaid i bob manylyn a/neu gwybodaeth yr ydych yn ei roi yn eich cais neu mewn unrhyw ffurf arall fod yn gywir, onest, a ddim yn gamarweiniol mewn unrhyw ffordd.

Rhaid i rieni / warchodydd roi gwybod i Rondo am unrhyw alergedd neu anhwylder eraill y mae’r Ymgeisydd yn ddioddef er mwyn gwneud addasiadau perthnasol. Rhaid hefyd roi gwybod i Rondo am unrhyw feddyginiaeth a sut i’w gymryd y bydd yr Ymgeisydd yn dod gyda nhw i unrhyw un o’r sesiynnau. Fe all bod angen i’r gwarchodwyr trwyddedig fod yn gyfrifol am storio neu weinyddu’r meddyginiaeth mewn rhai achosion.

Mae Rondo yn cadw’r hawl i wahardd unrhyw Ymgeisydd os yw’r rhiant/gwarchodydd wedi darparu unrhyw wybodaeth a/neu fanylion personol anghywir, anwireddus neu gamarweiniol, neu sy’n torri rheolau a/neu torri amodau.

Ni fydd y rhiant/gwarchodydd (a sicrhau nad ydi’r Ymgeisydd) heb ganiatad ysgrifenedig Rondo yn dadlennu, datgelu, cyhoeddi neu drafod gydag unrhyw drydydd parti, unrhyw wybodaeth sy’n gysylltiedig â’r Gyfres, ymddangosiad yr Ymgeisydd yn y Gyfres, y tîm cynhyrchu neu unrhyw gyfranwyr yn y Gyfres nac unrhyw wybodaeth arall a all ddod i glyw yr Ymgeisydd neu riant/warchodwr yr Ymgeisydd, gan gynnwys heb gyfyngiad mewn cysylltiad â S4C a/ neu Rondo.

Mae Rondo’n cadw’r hawl i ddiwygio’r rheolau yma neu ohirio, canslo neu newid unrhyw gam yn y broses glyweld, Cyfnod Mentora neu unrhyw ran arall o’r cynhyrchiad ar unrhyw amser yn dilyn digwyddiadau allan o’u rheolaeth.

Nid yw Rondo na S4C yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb i’r graddau a ganiateir yn gyfreithiol, am unrhyw golled, diford, anaf neu siomedigaeth a deimlir gan unrhyw Ymgeisydd neu riant/warchodwr a godir yn dilyn bod yn rhan yn y Gyfres.

Cysylltwch â Rondo Media gydag unrhyw gwestiynnau trwy ffonio 02920 223456 neu e-bostio chwilioamseren@rondomedia.co.uk

Cytundeb / Caniatâd

Mae rhiant neu warchodwr yr Ymgeisydd yn gwarantu yma fod gan yr Ymgeisydd yr hawl i fod yn y DU, perfformio yn y Gyfres a chymryd rhan yn y Gyfres gyfan, gan gynnwys teithio i Gliwice, gwlad Pwyl i gystadlu yn y Junior Eurovision Final, ac yn abl i ddangos yr hawl yma be bai Rondo yn gofyn unrhyw bryd, ac mae’r rhiant/gwarchodydd yn cytuno hysbysu Rondo yn syth os oes newid i statws mewnfudo’r Ymgeisydd.

Mewn ystyriaeth o gael y cyfle i gymeryd rhan yn y Gyfres, mae’r rhiant neu warchodydd, ar ran yr Ymgeisydd yn cytuno’n ddi-alw’n-ôl i roi’r hawl i Rondo ffilmio a recordio holl berfformiadau’r Ymgeisydd a defnyddio’r recordiadau sydd yn cynnwys lluniau ac/neu lais yr Ymgeisydd o fewn cyswllt y Gyfres a/neu hawliau ategol yn y Gyfres ac i wneud yn fawr ohonynt ym mhob cyfrwng drwy’r byd i gyd heb gyfyngiad ac heb dâl am y cyfraniad.